Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Caerfyrddin 4/12/04 (English)

Gêm Airbus
Gêm ddigon rhyfedd oedd hi ar y Maes Awyr ddydd Sadwrn yn erbyn Airbus UK. Yn bendant, nid oedd yn un o’n perfformiadau gorau: yn wir ’rym wedi chwarae’n well y tymor hwn a cholli ond ennill ydy ennill a mae’n rhaid inni fod yn ddiolchgar. Teimlais ein bod yn gyfforddus drwy’r gêm ac, er fod Airbus wedi cael un neu ddau hanner cyfle, roedd ein cyfleoedd ni yn rhai mwy pendant.

Cyfarfod y Clybiau
Trafodir, yng nghyfarfod y clybiau, ddyfodol y gynghrair am y pum mlynedd nesaf. Codwyd nifer o bwyntiau trafod yn barod. Un opsiwn posib’ sydd i’w drafod ydy rhannu’r gynghrair yn adrannau gogledd a de. Gwelaf hyn yn gam enfawr yn ôl. Mae yna gwynion ynglŷn â’r teithio ond nid yw’n broblem fawr gan mai ond chwe taith i dde Cymru sydd gennym. Os cymharir gyda’r ‘Northern Premier’, lle roeddwn yn arfer chwarae, ‘roedd gennym deithiau canol wythnos i lefydd fel Manceinion gan gyrraedd am 7.20 pm am gêm a oedd yn cychwyn am 7.30pm. Nid yw hyn yn digwydd yng Nghynghrair Cymru. Fel ysgrifennais o’r blaen, mae cwtogi nifer y clybiau yn y gynghrair yn gam gwael. Byddai’n golygu o bosib’ fod chwaraewyr o Gymru yn cael eu gwasgu allan gyda chlybiau yn mynd am chwaraewyr o dros y ffin a gwna hyn ddim i wella pêl-droed Cymru.

Mae yna bethau i’w dweud o blaid ac yn erbyn pêl-droed yr haf er efallai byddai’r caeau a’r gefnogaeth yn well ond a wnaiff y chwaraewyr chwarae yn y Gynghrair Undebol (Cymru Alliance) drwy’r gaeaf ac wedyn drwy’r haf yn Uwch Gynghrair Cymru? Hefyd a fydd caeau yn cael defnydd am 12 mis cyfan?

Dyfarnwyr
Byddai’n well i’r gynghrair geisio gwella agweddau eraill. Byddwn ni’n cynnig gwell cyfathrebu rhwng dyfarnwyr, aseswyr, rheolwyr a chwaraewyr. Ar y cyfan, mae’r dyfarnwyr wedi bod yn eitha’ da y tymor hwn. Gwnaeth Phil Southall argraff dda iawn arnaf ond mae un neu ddau o ddyfarnwyr yn methu ambell beth ’da ni fel cyn-chwaraewyr yn ei weld. Efallai fod yna le i gyn-chwaraewyr gyfrannu ochr yn ochr ag aseswyr a dyfarnwyr a fyddwn ni, y rheolwyr, yn dod i wybod beth sydd gan yr aseswyr i ddweud am berfformiadau’r dyfarnwyr. Medrwn ni hefyd wedyn fynegi barn.

Yr Academi
Mae datblygiad yr Academïau yn bwysig iawn. ’Rym yn ffodus iawn fod Steve Williams ei hyfforddwyr a’i gynorthwywyr yn barod i weithio’n galed er mwyn trefnu’r Academi.

Caeau Synthetig
Derbynnir caeau synthetig erbyn hyn gan UEFA a fedr hyn fod y ffordd ymlaen i Borthmadog. Bydd yna lai o waith cynnal a chadw ar y caeau yma. Maent o safon uchel iawn a gallant gael eu rhoi ar osod, a felly creu incwm i’r clwb. Efallai y bydd hyn yn werth ei ystyried.

Geiriau’r Dyfodol
Gobeithio y gwnaethoch fwynhau ‘Geiriau Campbell’ yn y golofn yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n ceisio perswadio un neu ddau o’r chwaraewyr i gyfrannu colofn at y dyfodol a hefyd roi tro i fraich Osian. Diolch am eich cefnogaeth.
Port v Carmarthen 4/12/04

Airbus game
It was a strange game at the Airfield last Saturday against Airbus UK. It certainly was not one of our best performances, indeed we have played much better and lost this term, but a win is a win and we must be thankful. I felt we were quite comfortable throughout although they did create a couple of half-chances in the second-half while our chances were more clear-cut.

WP meeting
A recent meeting of Welsh Premier clubs discussed the future of the league over the next five years. A number of talking points have already been aired. One possible option under discussion is a regionalised Welsh Premier. I see this as a massive backward step. People complain of the travelling involved but is not that bad, we have only six trips to south Wales which isn’t too bad, certainly compared to a league like the Northern Premier in which I used to play. In that league there were long trips to places like Manchester in mid-week where we would arrive at 7.20 for a 7.30 start. We don’t get that in the Welsh Premier. As I have written in this column before, I also see the reduction in the size of the league as a bad step. It seems to me that Welsh players might be squeezed out as clubs go for players from over the border and this will do nothing to help Welsh football.

Summer football again has its pros and cons, pitches may be better and attendances may be better, but will Welsh Premier players play in the Cymru Alliance all winter and then the Welsh Premier in the summer and will some pitches have football 12 months a year?

Referees
The League might be better off looking at other aspects to try and improve. I would advocate better communication between referees, assessors, managers and players. Referees have been pretty good on the whole this season. I have been particularly impressed with Phil Southall but one or two referees are missing things which we as ex-players see. Maybe there is a role for ex-players to play along side assessors and referees and that we as managers get to know what the assessors have to say about referees’ performance so that we in turn can put our views across.

Academies
The continued development of academies is important. We are lucky that Steve Williams and his coaches and helpers are willing to put in the work to run our academy.

Synthetic Pitches
UEFA are now accepting synthetic pitches and this may be the way for Porthmadog to go. The new ones need far less maintenance, can be hired out and raise income for the club and are of a very high standard. It may be worth looking into.

Future Views
Finally I hope you enjoyed ‘Campbell’s Views’ in the last column. I am trying to persuade one or two of the players to do a future column and also twist Osian’s arm as well. Thanks for your support.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us