Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Airbus 10/12/05 (English)

Geiriau Lee Webber

Toriad diangen.
Croeso i gêm pnawn ‘ma yn Uwch Gynghrair Cymru yn erbyn Airbus UK. Fi dynnodd y gwelltyn byr, a fi sy’n gorfod paratoi’r Olygfa o’r Fainc yr wythnos hon, neu ai Golygfa o’r Cae ddylai hynny fod? Yn gyntaf mae’n rhaid i fi ddweud fod yr holl chwaraewyr wedi siomi bod gêm dydd Sadwrn diwethaf yn Llanelli wedi ei alw i ffwrdd. Rydym wedi ennill dwy gêm yn olynol ac wedi dechrau rhoi rhediad bach da at ei gilydd a daeth y toriad ar yr amser anghywir i ni. Gobeithio allwn ni godi’r awenau unwaith eto heddiw gyda pherfformiad da arall. Yn fy marn i does dim llawer o’i le ar y funud. Rydym yn sgorio’r goliau ond o’n ochor i rydym yn gadael un neu ddau i mewn. Mae’n achos o “nawn ni adael i chi gael un ond sgoriwn i ddwy”. Mae hyder yr hogia’ yn uchel ac mae goliau yn dod o bob rhan o’r tîm ond mae Carl wir yn dod o hyd i’r rhwyd nawr gyda phedwar yn y dair gêm ddiwethaf.

4-4-2
Yn bersonol dwi’n teimlo bod y gwelliant yn deillio o’r drafodaeth hir ar ôl gêm Caernarfon. Roedd yn gyfle da i rannu barn. Mae’r drefn wedi cael ei newid i 4-4-2 ac dwi’n meddwl ei fod yn gweddu’r chwaraewyr yn well. Maent i gyd yn gwybod beth yw eu swyddi yn y tîm a’n teimlo yn fwy cyfforddus. Dwi’n meddwl ei bod yn wych bod Viv ac Osian yn ystyried barn y chwaraewyr a’n gwneud newidiadau pan fo’r angen.

Y Gêm
Mae’n dda bod carfan eithaf llawn ar gael heb law am Neil Thomas sydd wedi ei wahardd. Mae hefyd yn neis gweld Gareth Caughter yn ôl yn y garfan nid yn unig oherwydd ei allu ar y cae ond mae’n dipyn o jociwr yn y stafell newid ac mae hynny yn helpu gyda’r ysbryd. Mae edrychiad byr ar y tabl yn dangos yn glir bod pethau yn dyn eithriadol y tymor hwn. Bydd unrhyw dîm sy’n ennill cwpwl o gemau yn gallu codi cryn dipyn o safleoedd. Gallai ennill heddiw ac un neu ddau o ganlyniadau o’n plaid ein gweld yn codi i’r wythfed safle. Pwy fyddai wedi rhagweld hynny dair wythnos yn ôl pan oeddem ni yn yr 16ed safle? Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod y momentwm yn parhau heddiw. Mae’r hogiau yn awyddus i dalu’r pwyth am y gêm Cwpan y Gynghrair ‘nôl yn Awst.

Y Garfan
Agwedd arall sy’n fy mhlesio y tymor hwn yw fod cryfder y garfan wedi dyfnhau. Mae’r hogiau sydd wedi dod o’r Ail Dîm fel Ywain wedi gwneud yn dda. Mae nifer o’r rhai eraill yn ymarfer yn rheolaidd gyda’r Tîm Cyntaf. Mae’n teimlo fwy fel carfan y tymor hwn yn hytrach na dau dîm ar wahân yn y Tîm Cyntaf ac Ail Dîm. Mae’n dda gweld yr hogiau ifanc yn dod trwodd.

Gwelliannau oddi ar y cae.
Yn olaf, da iawn Phil a’r Cyfarwyddwyr am wneud y gwelliannau mawr i’r cyfleusterau a’r ffordd mae’r tîm yn redeg. Yn ystod fy amser gyda’r clwb mae’r gwelliannau wedi bod yn enfawr. Yn bennaf, mae’r hogiau yn mwynhau cael pryd yn y cae ar ôl y gêm. Mae’n dda ar gyfer ysbryd y tîm ac mae’n help i’r clwb. Mae’n ymddangos bod y clwb yn symud ymlaen yn dda, a gyda’r tîm yn chwarae’n well gobeithio bydd y torfeydd yn gwella. Yr unig beth sydd dim yn fy mhlesio yw bod blwyddyn wedi mynd ers i mi ennill y raffl! Tyrd o na Jane!

Daliwch i gredu.
Port v Airbus 10/12/05

Lee Webber's Words

Enforced break.
Welcome to this afternoon’s match in the Welsh Premier League against Airbus UK. I have drawn the short straw in having to prepare the View from the Bench this week, or should it be renamed View from the Pitch? First of all I have to say that all the lads were gutted that last Saturday’s game at Llanelli was called off. We have had two wins in a row and started a good little run and the break came at the wrong time for us. Hopefully we can pick up the reins again today with another good performance. In my view we are not doing much wrong at the moment. We are scoring the goals but from my side of things we are also letting a few in. It’s a bit of a case of “we’ll let you have one but we will score two”. Confidence is high amongst the lads and the goals seem to be coming from throughout the side but Carl is also really finding the net now with four in the last three games.

4-4-2
Personally I feel the improvement has stemmed from the lengthy discussion following the Caernarfon game. There was a good exchange of views. The formation has been altered to 4-4-2 which I think suits the players better. They all know their role within the set-up and feel more comfortable with it. I think it’s great of Viv and Osian to take the players views on board and make changes as and when it is necessary.

The Match
It’s good to have a pretty full squad available apart from the suspended Neil Thomas. Nice to see Gareth Caughter back in the squad after his injury not just for his ability on the pitch but he is a bit of a joker in the dressing room and that all helps the morale. Even from a quick look at the table it is obvious that things are very tight indeed this season. A couple of wins and any team can move up quite a few places. A win for us today and other results going in our favour could see us move into eighth spot. Who would have envisaged that three weeks ago when we were 16th? We need to keep momentum going today. The lads are keen to avenge that League Cup win back in August.

The Squad
Another pleasing aspect this season has been the deepening of the strength of the squad. The lads who have come from the Reserves like Ywain have done well. A number of others are training regularly with the First Team. It is more of a squad feel this season rather than two separate teams in the First Team and the Reserves. It is good to see the younger lads coming through.

Off-field improvements.
Finally a big shout for Phil and the Directors for the big improvements to the facilities and the running of the team. In my time at the club the improvements have been massive. The lads particularly enjoy having a meal at the ground after the game. It’s good for team bonding and is a help for the club. The club seems to be making good progress with the team playing better and therefore crowds will improve. The only thing I’m not impressed with is that I haven’t won the raffle in over a year! Come on Jane!

Thanks for your support.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us