Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Tymor mawr i’r Gynghrair

Saesneg / English

Hwn ydy’r tymor pan fydd yr awdurdodau yn disgwyl gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr gan gymryd y cam cyntaf at Gynghrair y Deg Disglair. Ond wrth i’r tymor fynd yn ei flaen gallwn ddisgwyl yr annisgwyl i ddigwydd.

Mae’n debygol y bydd y tri chlwb arferol yn brwydro am y bencampwriaeth ond gyda Port Talbot efallai yn ymuno i’w gwneud yn frwydr rhwng pedwar. Yn is i lawr y tabl gallwn ddisgwyl ambell sioc wrth i’r frwydr gynhesu, gyda un neu ddau, a ystyrir yn sicr o gyrraedd y 12 Uchaf, yn cael bywyd yn anos o lawer nac oedden yn ei ddychmygu. Mae rhai o’r clybiau wedi rhoi’r cyfan a mwy i gyrraedd y nod. Os dderbyniwn fod rhai o’r symiau ariannol, sydd yn cael eu crybwyll, wedi’u hymestyn dipyn ni fydd yn sioc enfawr os bydd ambell glwb yn mynd i drafferthion.

Os ydy’r tîm gorau llynedd, a hynny o gryn dipyn, yn cael eu orfodi i dorri maint eu carfan dylai’r clychau fod yn canu yn Neptune Court. Mae’n edrych yn debyg fod yna glybiau sydd wedi hel ddigon o arian i wneud un ymdrech fawr yn 2009/10 - ond beth sy’n digwydd iddynt wedyn? Dydy’r gynghrair ddim yn ddigon sefydlog eto i ostwng eu maint i nifer mor fychan. Mae gormod ohonynt yn or ddibynnol ar un ffynhonnell ariannol – Mr Benefactor fel y galwyd un tro gan Viv Williams. Beth wnaiff ddigwydd os ydy’r ffynhonnell honno yn sychu? Collodd y gynghrair glybiau yn y modd yma eisoes –Barri, Inter Caerdydd, Cwmbrân a Chonwy - i gyd yn glybiau a gynrychiolodd Cymru yn Ewrop ac i gyd yn glybiau a ddibynnodd yn ormodol ar gefnogaeth ariannol un dyn neu dynes. Os ydy ymdrechion y tymor hwn yn arwain at golli clybiau y tymor nesaf bydd yn ergyd i bêl-droed ar y lefel yma yng Nghymru. Os bydd un neu ddau o glybiau yn methu, a hynny allan o dim ond 10 neu 12, bydd yn gadael y gynghrair yn wannach ac nid yn eu chryfhau fel y bwriadwyd.

Dydy pob clwb ddim yn barod i gamblo’r cyfan ar un tymor da fel y dywedodd Mike Jones, cadeirydd Y Drenewydd “Bydd y Drenewydd yn gwneud popeth yn eu gallu i ennill lle yn y ‘10/12 Disglair’ ond ni fyddant yn fodlon peryglu dyfodol y clwb er mwyn gwneud hynny." Dyma hefyd ydy safbwynt Porthmadog. Syniad gwael ydy adeiladu ar dywod.

Ni ddylem ddisgwyl newid na chydymdeimlad o gyfeiriad yr awdurdodau. Nhw sydd wedi gwthio’r drefn newydd am fod angen gwneud ‘rhywbeth’ a dyna maent wedi gwneud - ‘rhywbeth’. Mae’r penderfyniad i leoli rownd derfynol Cwpan Cymru ym Mharc y Sgarlets yn gyrru neges glir am eu hagwedd at ddymuniadau’r clybiau a’r cefnogwyr.

Dylai fod yn dymor diddorol gyda’r penderfyniadau terfynol am pwy sydd yn y 12 yn cael ei setlo ar ôl apêl neu hyd yn oed yn y llysoedd – mwynhewch y tymor tra fydd y pres yn dal yna.



A big season for the WPL

This is the season when the powers that be hope to sort the sheep from the goats as the league takes its first step to become the Super Ten. But as the season progresses there might well be some unexpected by-products.

The league title will probably be fought out between the usual three but with Port Talbot likely to make it a four cornered tussle. Further down the table we could well be in for a few shocks once the battle heats up with one or two of the clubs regarded as racing certainties to attain Top 12 status finding life more difficult than they thought. Some clubs have gone for broke and even if the kind of money some clubs are said to be paying turns out to be only remotely true, then there could soon be some casualties.

If the best team by far last season has been forced to reduce its squad then alarm bells should be ringing in Neptune Court. Some clubs appear to have put funding in place for one mighty push for 2009/10, but what happens next? The truth is that the league is not well enough established for such a drastic reduction with many clubs dependent on a single source of funding – Mr. Benefactor as Viv Williams once expressed it. What happens if that source of funding suddenly dries up? The league already has casualties of this type in its record - Barry Town, Inter Cardiff, Cwmbran and Conwy United - all clubs who represented the WPL in Europe, all clubs who relied heavily on the financial backing of one man or woman. If this season’s spending leads to casualties next season then football at this level in Wales will suffer. Any enforced reduction below 10 or 12 will leave the league weakened rather than strengthened.

Not all clubs are prepared to gamble everything on one good season as Newtown chairman Mike Jones aptly put it "Newtown FC will do everything it can to qualify for the so-called 'Super 10/12' but we will not risk the club's future to do so." This also represents the position of Porthmadog. Building on sand is a very bad idea.

However expect little change or sympathy from the powers that be who have forced this issue. They have decided that something needs to be done so they have done just that ‘something.’ Their decision to stage the Welsh Cup final at Parc y Sgarlets gives a clear message of lack of concern for the views of both clubs and supporters. Should be an interesting season with the eventual composition of the Top 12 being decided after appeals, counter appeals and even the courts – enjoy it while the money lasts!





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us