Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Consyrn am Gynghrair Gwynedd / Gwynedd League Concern

Saesneg / English

Efallai eich bod wedi sylwi, yn y darn Canlyniadau o’r wefan hon, fod dwy gêm ddiwethaf yr ail dîm wedi’u gohirio sef y gemau yn erbyn Gaerwen a Blaenau Ffestiniog. Mae darn yn rhaglen y gêm yn erbyn Port Talbot yn mynegi pryder ynglyn â’r rhesymau sydd tu ôl i’r gohiriadau yn enwedig gan eu bod yn codi mor gynnar â hyn yn y tymor. Mae’n dweud:

"Gohiriwyd dwy o gemau’r ail dim yn ystod yr wythnos ddiwethaf a’r ddwy am yr un rhesymau sef fod y gwrthwynebwyr yn methu codi tîm. Prin fod hyn yn ddechrau gwych i’r gynghrair os ydy timau mewn trafferthion mor fuan yn y tymor. Sut fydd pethau yng nghanol gaeaf? Newydd eu dyrchafu mae’r Gaerwen a fe fyddech yn disgwyl iddynt fod yn dal mewn cyffro yn dilyn hyn. Mae adroddiadau ynglyn â Blaenau ar y llaw arall eu bod mewn dyfroedd dyfnion sydd yn bygwth dyfodol y clwb. Mae’n ymddangos eu bod yn cael trafferth i ddod o hyd i reolwr ac o ganlyniad mae chwaraewyr wedi symud i glybiau eraill.

"Dyna’n union pam ‘roedd ail dîm Porthmadog mor awyddus i ennill dyrchafiad i gynghrair uwch yn dilyn cipio’r bencampwriaeth y llynedd. Ond sefyll yn ffordd clybiau sydd am wneud cynnydd mae y rhai sydd mewn awdurdod a’u gorfodi i chwarae mewn cynghreiriau lle mae gweinyddiaeth nifer o’r clybiau o safon isel. Dywed rhai fod gweinyddiad y Gynghrair ei hun yn bell o fod yn berffaith ond mae’n rhaid ei bod hi’n waith anodd pan fo clybiau yn tynnu allan o gêmau, yn cwyno nad ydynt yn medru codi tîm neu yn dweud nad ydynt am chwarae ar rai Sadyrnau penodol. Yn bersonol ni fyddwn yn hoffi eu gwaith gan fod rhedeg un clwb yn ddigon heb orfod cynnal cynghrair gyda 16 o glybiau i gyd a’u agenda eu hunain."

Mae Viv hefyd yn cyfeirio at y mater hwn yn ei sylwadau cyn gêm Port Talbot (Gol.)



English
As you may well have noted in the results section of the website, the last two reserve fixtures against Gaerwen and Blaeanau Ffestiniog were not played. The match programme notes for the game against Port Talbot express deep concern with the reasons behind this situation arising as it does so early in the season. It says:

"Both of Porthmadog Reserves Gwynedd League matches in the past seven days have been postponed and both for the same reason namely that their opponents cannot raise a team. This is hardly an auspicious start for the league, if teams are struggling now after a fortnight of the season. How will they fare in the deep mid-winter? Gaerwen have only just been promoted and should be still flush with promotion fever while Blaenau are reported to be in the midst of a major crisis that could jeopardise the very future of the club. It appears that they have struggled to find a manager and as a result players have drifted away and signed for other clubs.

"This is exactly why Porthmadog Reserves were so keen to gain promotion into the higher league following their Championship win last season. However the powers that be stand in the way of progressive clubs and force them to play in leagues where the administration of many of the clubs is to say the least sub-standard. Some would say the administration of the league itself is not too clever, but it must be a difficult job when clubs pull out or complain that they cannot raise a team or don’t want to play on certain Saturdays. Personally I would not like their job, running one club is hard enough without having to run a league with 16 different vested interests."

Viv also refers to this matter in his notes for the Port Talbot game (Ed.).


Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us