Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Barn Cefnogwr - Trallwng v Port / Fan's View - Welshpool v Port

Saesneg / English

Ar ôl i’r goliau lifo dros yr wythnosau diwethaf, daeth ein traed yn ôl i’r ddaear ddydd Sadwrn ar Maes-y-Dre yn Y Trallwng.

Cyfrannodd nifer o ffactorau at y golled a nid y lleiaf o’r rhain oedd absenoldeb Carl Owen oherwydd materion teuluol. Er gwaethaf ymdrechion gorau Les Davies a Gareth Caughter, roedd Port yn colli’r chwaraewr a fedrai arwain y llinell flaen.

Byddai rhai yn dweud fod hyn y arwydd o dîm sy’n ddibynnol ar un chwaraewr ond, mewn gwirionedd, pa dîm na fyddai’n gweld eisiau un o’u chwaraewyr gorau a hefyd eu prif sgoriwr?

Hefyd yn ergyd oedd absenoldeb yr amddiffynnwr canol Ryan Davies. O leiaf, trwy hyn cafodd y chwaraewr ifanc addawol Geraint Mitchell ei gyfle cyntaf fel cefnwr de.

Geraint yw un o’r chwaraewyr ifanc a greodd argraff arbennig wrth chwarae i dîm Dan 21 Port yn y gynghrair newydd.

Da ydy gweld chwaraewyr yn datblygu drwy’r system ac mae hyn wedi digwydd fwyfwy eleni wrth i nifer dda o’r chwaraewyr ifanc ymarfer yn rheolaidd gyda’r tîm cyntaf.

Problem arall i Port oedd y llethr yn rhedeg o un gôl i’r llall a chawsant drafferth drwy gydol y gêm i ddleio â hyn.

Bu llawer o drafod ynglyn â gwella cyfleusterau yn Uwch Gynghrair Cymru ond does fawr o reswm i glwb Y Trallwng wella’u cae pan mae gadael pethau fel maent yn rhoi cymaint o fantais iddynt.

Rhag mynd i swnio fel collwr gwael rhaid cyfaddef fod Port, yn fy marn i, wedi mynd ati yn y dull anghywir yn rhan gyntaf yr ail hanner.

Yn ystod y pum munud ar hugain cyntaf o’r ail hanner, wrth iddynt chwarae i lawr y llethr, defnyddiodd Port ormod o’r bêl hir, polisi a fethodd ddwyn ffrwyth. Roedd hyn yn hollol wahanol i’r dull o chwarae a ddefnyddiwyd gan Y Trallwng yn yr hanner cyntaf.

Rhaid dweud fod y gêm hon yn un o’r rhai mwyaf diflas imi ei gweld ers blynyddoedd ac nid fy marn i yn unig ydy hyn. Wrth gerdded o’r cae, clywais ddau o gefnogwyr Y Trallwng yn sgwrsio am y fuddugoliaeth o un gôl gyda un yn dweud wrth y llall “perfformiad arall difflach ond buddugoliaeth ydy buddugoliaeth mae’n siwr.”

Siomedig iawn oedd gweld fod gwastraffu amser yn gymaint o ran o gêm Y Trallwng yn yr ugain munud olaf. Un o’r rhai mwyaf amlwg yn defnyddio’r math yma o dacteg oedd neb llai na Ged McGuigan cyn golwr Port a oedd yn chwarae ei ail gêm i’r clwb o’r canolbarth.

Dim ond diflasu’r cefnogwyr wnaeth hyn gan gyfrannu dim at y fuddugoliaeth. Ar y llaw arall, fedrai hyn fod y rheswm am y gefnogaeth isel mae’r Trallwng yn llwyddo i ddenu, a hynny er eu safle ardderchog yn y gynghrair.

Iwan Gareth.


Fan's View - Welshpool v Port

After the goal rush of recent weeks, it was down to the ground with a bump on Saturday at Welshpool’s Maes-y-Dre.

A few factors contributed to this defeat, not least the absence of Carl Owen because of family matters. Despite Les Davies and Gareth Caughter’s best efforts, Port were clearly missing a man to lead the line.

Some might say that this is a sign of a team dependent on one man, but to be honest what team wouldn’t miss one of their best players and leading scorer?

Also absent was central-defender Ryan Davies which was of course a blow. However, his absence allowed Porthmadog youngster Geraint Mitchell to make his debut for the club at right-back.

Geraint has been one of the shining lights for Porthmadog’s U21’s in the Welsh Premier’s new Under 21 league.

It’s pleasing to see players coming through the system, something that’s happened more and more this season with many players from the reserves training regularly with the first team.

Another stumbling block in Port’s path was the slope from one goal to the other which they struggled to contend with all match.

There is much talk of improving facilities in the Welsh Premier, but what incentive is there for Welshpool to improve their pitch when it can work in their favour?

To avoid sounding like too much of a sore loser, I should mention that I felt Port approached the opening part of the second half in the wrong manner.

In the opening 25 minutes of the second half, when playing down hill, Port played a long ball game which bore little fruit. This was totally different to the way in which Welshpool had approached things in the first half.

This must count as one of the poorest games of football I have seen in years, and don’t just take my word for it. On the way out I overheard two Welshpool supporters reflecting on their one-goal victory, with one turning to the other saying “another uninspiring performance, but a win’s a win I suppose”.

What was disappointing to see was the time-wasting that became a feature of Welshpool’s play in the last 20 minutes. One of the main protagonists of this style of play was none other than former Port keeper Ged McGuigan making his second appearance for the Pool.

I would say that this only succeeded in tiring the punters and didn’t contribute at all to their victory. Could this be one of the reasons why Welshpool’s attendance figures remain low despite their excellent league position?

Iwan Gareth.

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us