Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Barn Cefnogwr / Fan's View - Caersws v Port

Saesneg / English

Siomedig i dîm Port a’r cefnogwyr oedd yr ymweliad a’r canolbarth. Mae’r sgôr terfynol yn awgrymu gêm agos a dyna sut oedd hi hefyd. Cafodd Port dipyn o feddiant ond, fel sydd wedi ddigwydd sawl tro o’r blaen, methwyd troi’r meddiant yn gyfleoedd drwy sicrhau fod y bas olaf yn un gywir.

Treuliodd Caersws, ar y llaw arall, dipyn o’r gêm yn eu hanner eu hunain ond, pan ddaeth y cyfle iddynt ergydio am y gôl, roeddent yn dipyn fwy pendant eu hymateb.

Wrth astudio tabl Uwch Gynghrair Cymru eleni, gwelwn fod casgliad o glybiau yn closio at ei gilydd tua’r canol gyda’r drefn yn newid o wythnos i wythnos. Mae’n bwysig iawn felly ennill gêmau yn erbyn y clybiau eraill sydd yng nghanol y tabl.

Mewn gêmau o’r natur yma, y canlyniad sy’n bwysig. Roedd hon yn gêm siomedig heb fawr o gyffro o flaen gôl na chwaith fawr o bêl droed creadigol, ond, o dan yr amgylchiadau, roedd hyn yn llawer llai pwysig na’r canlyniad. Er hyn i gyd, manteisiodd Jason Sadler ar y cyfle i sgorio ei gôl gyntaf yn ei ail gêm ers ymuno â Phorthmadog.

Mae ymweliad â Chaersws bob amser yn rhoi’r cyfle ichi ystyried y ffordd rhyfeddol mae clwb pentref hwn wedi llwyddo mor aml i gadw eu pennau’n uchel a churo rhai o geffylau blaen y gynghrair.

Nhw ydy’r esiampl i holl glybiau llai ffasiynol y gynghrair. Mae Caersws yn un o ond chwe chlwb sydd wedi aros yn yr uwch gynghrair ers y cychwyn yn 1992. Yn fwy rhyfeddol fyth, ei rheolwr Mickey Evans yw’r unig rheolwr i oroesi o’r cychwyniad hwnnw ac yn dal i reoli yn ei bedwerydd tymor ar ddeg.

Maent wedi mwynhau llawer o lwyddiant dros y blynyddoedd gan gynnwys gorffen yn bedwerydd yn 2001-02 a nhw felly oedd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan yr Intertoto.

Dengys Porthmadog pob arwydd eu bod wedi dysgu yr un wers a’i bod nhw hefyd yn adeiladu ar seiliau gofalus at y dyfodol. Dyma’r unig ffordd i’r clybiau llai. Rhaid byw o fewn eich cyllideb, bod yn realistig ac osgoi breuddwydion ffôl.

Mae Viv Williams wedi bod ar Y Traeth ers 7 mlynedd a chyda cefnogaeth bwrdd rheoli gweithgar mae o ac Osian Roberts yn adeiladu at y dyfodol. Mae’r fformiwla sydd wedi gweithio mor effeithiol yng Nghaersws yn cael ei ddefnyddio hefyd ar Y Traeth.

Dengys y ffolineb o ddibynu'n ormodol ar un cefnogwr ariannol yn glir iawn yn achos Cwmbrân sydd wedi disgyn i waelodion y tabl ar ôl bod yn geffylau blaen cyhyd.

Cofiwch bob amser mai “Small is Beautiful” piau hi.

Gareth Williams.


Fan's View - Caersws v Port

The visit to mid-Wales proved a disappointment for Port and their band of supporters. The score suggests a close game and a narrow victory and that is how it was too. Port enjoyed a fair amount of the possession but, as has often happened, they failed to turn possession into goal chances with the final ball going astray.

Caersws, on the other hand, spent a lot of the game in their own half but, when the chances arose, they proved more decisive in the penalty area.

An examination of the Welsh Premier table this season reveals a gaggle of clubs huddled together in mid table with the pecking order changing each week. It is doubly important therefore to win your games against your mid table rivals.

In games of this nature, the result is what matters. It matters less that this was a very disappointing game, providing little in the way of goalmouth thrills or good creative football. It did however give Jason Sadler the opportunity to score his first goal in what was his second game since joining Port.

A visit to Caersws always provides you with the opportunity to reflect on the remarkable way this small village club has been able to mix it so successfully with the big battalions of the Welsh Premier.

They are the role model for the less fashionable clubs. They are one of only six clubs who have survived in the league since day one in 1992. More remarkably, their manager, Mickey Evans is the only manager to have survived and is now in his 14th season as manager.

They have achieved much including a best finish of 4th in 2001-02 which meant that they represented Wales in the Intertoto Cup.

Port are showing that they have taken the Caersws example to heart and are trying to build in the same way. This is the only way for small clubs. Live within your means and look for consistency, be realistic and forget ego trips.

Viv Williams has now managed Port for 7 years and backed by a hard working board he and Osian Roberts are building for the future. The formula that has served Caersws so well is the one that is being emulated at the Traeth.

The folly of relying on one financial benefactor has been clearly shown this season with the decline of once high flying Cwmbrân.

The motto clearly remains “Small is Beautiful”

Gareth Williams.

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us