Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Barn Cefnogwr - Port v Airbus / Fan's View - Port v Airbus

Saesneg / English

Mae na beryg fy mod yn siarad yn rhy fuan, ond mae’n edrych imi fod problemau Port o flaen y gôl yn beth sy’n perthyn i’r gorffennol. Yn barod y tymor hwn mae 24 o goliau wedi’u sgorio mewn 12 gêm sydd ond 14 yn brin o gyfanswm y llynedd!

Gyda Carl Owen yn taro chwe gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf, mae ei gyfanswm goliau ym mhob cystadleuaeth wedi codi i 10 am y tymor. Nid yw’n fawr o syndod felly fod Bangor wedi ceisio’i arwyddo nifer o weithiau yn ystod y tymhorau diwethaf.

Yn fy marn i, y prif rheswm am y gwelliant diweddar o flaen gôl ydy’r newid i batrwm 4-4-2 gyda’r bartneriaeth rhwng Carl Owen a Les Davies eisoes yn dwyn ffrwyth.

Gwnaed y pwynt hwn gan Lee Webber yn ei erthygl yn y rhaglen ddydd Sadwrn . Dywed fod y system yn un mae’r tîm yn “teimlo’n fwy cyfforddus efo.”

Roedd y fuddugoliaeth dros Airbus ddydd Sadwrn yn un cyfforddus iawn gyda’r tri phwynt yn edrych fel aros ar y Traeth ar hyd yr amser.

Prin iawn oedd yr ymdrechion at gôl Port tan iddynt fynd ddwy ar y blaen ar ôl tua awr o’r chwarae.

Roedd yn rywfaint o siom fod Airbus wedi cael un gôl ar ôl cael eu cadw allan am 85 munud ond roedd y gêm drosodd erbyn hynny beth bynnag.

Y peth a oedd yn bodloni pawb oedd fod y gwastraffu cyfleoedd a oedd mor amlwg yng nghynt yn y tymor ddim yn rhan o chwarae Port ddydd Sadwrn.

Yr unig beth siomedig ddydd Sadwrn oedd y gefnogaeth isel. Roedd hyn yn arbennig o siomedig gan fod y gêm hon yn dilyn buddugoliaeth swmpus 5-1 yn erbyn Cwmbrân. Ymddengys fod hi’n anodd iawn plesio rhai.

Ar y llaw arall roedd yn bleser clywed rhai o’r cefnogwyr ifanc yn codi’u lleisiau i gefnogi’r clwb. Rwy’n siwr fod hyn yn dderbyniol iawn gan y chwaraewyr ac yn hwb i’r hogiau.

Bydd sialens anodd yn wynebu Port ddydd Sadwrn wrth iddynt ymdrechu i gynyddu’r rhediad o fuddugoliaethau i bedair gêm. Bydd Y Trallwng, sydd yn y trydydd safle, yn rhoi dipyn fwy o sialens nag y gwnaeth Airbus.

Mae cae Maes-y-Dre yn Y Trallwng yn un na fyddai ym mysg fy hoff gaeau yn y gynghrair gyda’r llethr o un gôl i’r llall a’r wyneb sydd yn llai na pherffaith. Ni fydd y cae hwn yn ffafrio gêm basio arferol Port.

Iwan Gareth.


English

At the risk of speaking too soon, it seems to me that Port’s problems in front of goal are becoming a thing of the past. This season’s haul after 12 league matches is 24 goals, only 14 goals short of the total for the whole of last season!

Carl Owen has scored 10 goals in all competitions, thanks to an impressive strike rate of 6 goals in the last 4 matches. It is little wonder therefore that Owen’s signature has been the target of Bangor on more than one occasion over the past few seasons.

I believe that one of the main reasons behind this improvement in front of goal o f late is the switch to the 4-4-2 formation with the strike-partnership of Carl Owen and Les Davies already bearing fruit.

This was a point made by Lee Webber in his article in Saturday’s match programme. He said that this system was one that the players “feel more comfortable with.”

The victory against Airbus on Saturday was very comfortable indeed, and the three points always looked as if they would be staying at the Traeth.

Threats on the Port goal were very limited until they took a two goal lead near the hour mark.

It was a slight shame that a clean sheet was not gained, having managed to keep Airbus at bay for 85 minutes. But the game was well and truly over by then.

What was more pleasing was the fact that the usual squandering of chances, evident earlier on in the season, was not a feature of Port’s play on Saturday.

One of the only disappointments on Saturday was the very low turn-out. This was especially disappointing coming on the back of a 5-1 thumping of Cwmbran. It seems that some people are very difficult to please.

On the other hand it was good to hear many of the younger supporters in fine voice supporting the team. I’m sure their support is well received and is a boost to the lads.

Port face a difficult challenge on Saturday, on their quest to extend their winning streak to 4 matches. Welshpool, who currently occupy third position, will probably pose more of a challenge than Airbus.

Welshpool’s Maes-y-Dre must count as one of my least favourite grounds in the league what with the slope from one goal to the other and the less than perfect playing surface. This will make it difficult to play Port’s usual game of passing football.

Iwan Gareth.

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us