Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
24/09/17
Rhagolwg: Treffynnon / Preview: Holywell

Treffynnon / Holywell Bydd Port yn teithio i Dreffynnon ddydd Sadwrn a’u hyder yn uchel ar ôl perfformiad campus yn erbyn Airbus, clwb a oedd wedi sefydlu eu hunain ar ben y tabl ac yn ffefrynnau i ennill dyrchafiad.
Bydd yn golled i Craig Papirnyk fod heb ei brif sgoriwr, Joe Chaplin, am yr wyhtnosau nesaf ond bydd hyn yn rhoi cyfle i Meilir Williams, sydd wedi bod ymysg y goliau wrth ddod o’r fainc. Hefyd mae yna gwestiwn am ffitrwydd Tom Taylor, chwaraewr sydd wedi creu argraff ers ymuno.
Gêm rhwng y 3ydd a’r 5ed fydd hon, a dim ond gwahaniaeth goliau yn rhannu’r ddau glwb. Dim ond unwaith mae Treffynnon wedi colli y tymor hwn a hynny adref i Airbus. Maent hefyd wedi cael pedair gêm gyfartal allan o’u wyth gêm y tymor hwn. Chwaraewr sydd wedi gwneud ei farc ers ymuno a Treffynnon ydy Steve Lewis sydd yn rhwydo’n rheolaidd iddynt, fel mae Jamie McDaid, cyn chwaraewr Port. wedi gwneud.
Gallwn ddisgwyl gêm gystadleuol agos pnawn Sadwrn, fel mae’r gemau diweddar rhwng y ddau wedi bod. C’mon Port!

Port wll travel to Holywell on Saturday buoyed by their excellent three points on Saturday pegging back the leaders, Airbus, at a time when the Airfield club were beginning to establish themselves as firm favourites for a quick return to the WPL.
It will be a worry for Craig Papirnyk that he will be without leading scorer Joe Chaplin for the next few weeks but that presents an opportunity for Meilir Williams, who has been among the goals when coming from the bench. Also a concern that Tom Taylor, who has made his mark during his two appearances, had to leave the pitch on Saturday.
It will be a game of 3rd playing 5th in the table with only goal difference separating the two Holywell have been beaten only once this season and that came at home to Airbus but they have drawn four of their eight games. Steve Lewis has made his mark at the club since joining at the start of the season and has been a regular scorer as has former Port forward Jamie McDaid.
We can anticipate another close encounter on Saturday as indeed games between the two clubs have been in recent seasons. C’mon Port.
24/09/17
Gohirio gemau Academi / Academy games postponed

Oherwydd glaw trwm bu’n rhaid gohirio’r gemau Dan18 a Dan14 a oedd i’w chwarae heddiw (dydd Sul).
Gobeithio fydd y gêm Dan 14 yn cael ei chwarae ar Y Traeth nos yfory ac nid yn Y Bermo fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Does dim dyddiad eto i’r tîm Dan 18.

The U18s and U 14s games to be played today (Sunday) have had to be postponed due to the heavy rain which has fallen.
It is hoped that the U14s game will be played tomorrow night (Monday) at the Traeth and not the previous venue at Barmouth.
There is no date yet for the U18s game.
22/09/17
Dan 18 ar Y Traeth / U18s at home

Pnawn Sul (24 Medi) bydd yr hogiau Dan18 yn chwarae eu gêm gartref gyntaf yng Nghynghrair Ieuenctid Dyffryn Clwyd. Llanfairpwll fydd yr ymwelwyr.
Y penwythnos diwethaf enillodd yr hogiau eu gêm gyntaf, yn curo Mynydd Tigers o 2-0 gyda Rhys Hughes yn sgorio’r ddwy.
Bydd y tîm Dan 14 yn chwarae Y Bala ar gae Wern Mynach bore Sul cic gyntaf 10.30am
Bydd y tîm Dan 10 yn chwarae Cae Glyn yn Ysgol Huw Owen bore Sul am 10.30pm.
C’mon Port a cefnogwch yr hogiau.

The U18s play their first home Vale of Clwyd Youth League fixture on Sunday (24 September) when Llanfairpwll will be the visitors.
Last weekend the team made a winning start in the League defeating Mynydd Tigers by 2-0 with Rhys Hiughes scoring both their goals.
The Academy U14s will play Bala at Wern Mynach on Sunday morning, kick off 10.30am
The U10s will play Cae Glyn at Ysgol Syr Huw Owen on Sunday morning, kick off 10.30am
C’mon Port and support the lads. Kick off 2pm.
21/09/17
Rhagolwg/Prevew: Airbus Brychdyn

Noddwr/ Match Sponsor: Bernie Smith Pwllheli
Airbus, y clwb ar frig y tabl, fydd yr ymwelwyr i’r Traeth pnawn Sadwrn. Yn anffodus mae’r gêm hon yn dilyn colli dwy gêm yn olynnol ac yn gosod tasg fawr iawn i’r tîm heb fawr o amser i baratoi ac i ail wampio. Yr unig nodyn positif ydy fod yn gyfle buan i wneud yn iawn, gan nad ydy’r tîm wedi mynd yn un gwael dros nos.
Bydd Craig Papirnyk yn fwy ymwybodol na neb o faint y dasg gan fod clwb y Maes Awyr wedi rhoi y golled yn erbyn Queen’s Park tu ôl iddynt yn sydyn iawn a sefydlu eu hunain ar frig y tabl gan rybuddio pawb eu bod am ddychwelyd i UGC a hynny yn sydyn iawn. Mae Alfons Fosu-Mesah, eu blaenwr newydd o’r Iseldiroedd, yn profi ei hun yn chwaraewr allweddol iddynt, gyda’i sgorio cyson. Mae record Airbus o 5 buddugoliaeth yn olynnol a 6 budugoliaeth mewn 7 gêm yn dangos fod tasg anodd yn ein gwynebu pnawn Sadwrn.
Mae colli yn erbyn Dinbych a Chaergybi wedi bod yn dolc yn ein cychwyn addawol i’r tymor, felly cael pethau yn ôl ar y cledrau fydd y dasg yn ystod y gemau nesaf. C’mon Port

League leaders Airbus will be the visitors to the Traeth on Saturday. Coming on the back of two straight defeats it presents the squad with a very difficult task and a very quick turnaround which gives little time to prepare. The only positive aspect is that it gives an early opportunity to get things right, as the team has not suddenly become a poor one overnight.
Manager Craig Papirnyk will be only too aware of the size of the task as Airbus after an eary wobble have established themselves as frontrunners serving notice that they are going for a quick return to the WPL. Alfons Fosu-Mesah their new Dutch striker has been a key figure in their winning run of form with his regular goalscoring. Five straight wins and six in seven games shows that they mean business and will be extremly difficult opponents on Saturday.
Defeats against Denbigh and Holyhead have dented Port’s promising start to the season so getting things back on track will be the aim over the next two or three games. C’mon Port
18/09/17
Rhagolwg: Caergybi / Prevew: Holyhead Hotspurs

Bydd Port yn teithio i Gaergybi nos Fercher i chwarae Hogiau’r Harbwr a hynny am yr ail dro y tymor hwn. Bydd y ddau glwb yn croesawu’r cyfle cynnar hwn i wenud yn iawn am eu colledion y Sadwrn diwethaf. Consyrn Port bydd y bedair gôl a sgoriwyd yn eu herbyn ar Y Traeth, tra fydd Caergybi, a’u record diguro wedi mynd draw yn Cegidfa, yn chwilio am fuddugoliaeth i adfer hyder. Ond bydd gan Port mwy o reswm am geisio cadw eu record oddi cartref, a hynny yn dilyn colli yn erbyn yr Hotspyrs yng Nghwpan Nathaniel MG o 5-3. Gobeithiwn yn fawr weld Dan Roberts a Tom Taylor yn ôl yng nghanol yr amddiffyn ar ôll bod yn absennol y Sadwrn diwethaf.
Y tymor diwethaf Port enillodd y ddwy gêm gynghrair rhwng y ddau clwb on y tymor hwn mae Campbell Harrison wedi cryfhau ei garfan gyda chwaraewyr fel John Littlemore, Alex Boss a Chris Jones.
Mae colli yn erbyn Dinbych yn golygu fod Port wedi syrthio dau safle i 4ydd yn y tabl ond gyda 20 gôl yn dal â’r nifer uchaf yn y tabl. Ond ar y llaw arall mae’r 11 gôl yn eu herbyn yn fwy na’r timau eraill o’u cwmpas. Hawdd gweld felly lle sydd angen gwella. Sialens fawr nos Fercher -Cmon Port!

On Wednesday Port travel to Holyhead to take on the Habourmen for the second time this season. Both clubs will welcome the early opportunity to put things right after suffering defeats last Saturday. Port will be concerned to have conceded four goals at home while the Hotspurs will want to get back to winning after losimg their unbeaten record at Guilsfield. Port will have an extra incentive to continue their good away form having gone down 5-3 to the Hotspurs in the Nathaniel MG Cup. Let’s hope that the new partners at the heart of the defence, Tom Taylor and Dan Roberts, missing on Saturday, will be back on Wednesday.
Last season Port did a league double over Hotspurs but Campbell Harrison has added quality to his squad as we saw in the Traeth encounter from John Littlemore, Alex Boss and Chris Jones.
Saturday’s defeat means that Port drop two places to 4th spot but we remain the league’s leading scorers with 20 goals but letting in 11 is also more than our immediate rivals. It is clear therefore where we can improve. A big challenge on Wednesday: C’mon Port!
17/09/17
Dechrau da Dan18 / Winning start for U18s

Cafodd y tîm Dan 18 fuddugolieth o 2-0 dros Mynydd Tigers ar gae Beach Road Bangor heddiw. Hon oedd eu gêm gyntaf yng Nghynghrair Ieuenctid Dyffryn Clwyd.
Rhys Hughes sgoriodd y dwy g^ôl i Port, daeth y gyntaf ar ôl 14 munud ac ychwanegodd yr ail ar 70 munud i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Sylw y Rheolwr, Sion Eifion yn dilyn y gêm oedd, “Roedd yn dda cael y 3 phwynt ar y bwrdd gyda perfformiad proffesiynol gan yr hogiau ar gae ofnadwy. Digon i weithio arno yn ystod yr wythnos nesaf!”
Da iawn hogiau, Cychwyn grêt!

The U18s started their season with a 2-0 victory over Mynysdd Tigers at Beach Road, Bangor today. This was their opening game of the season in the Vale of Clwyd Junior League.
Rhys Hughes scored both Port goals, the first coming after 14 minutes and he added a second to seal the win on 70 minutes.
Coach Sion Eifion said after the game, “Nice to get 3 points on the board. Professional display from the boys on a terrible pitch. Plenty to work on in the week!”
Well done lads. Great start.
15/09/17
Gemau Academi / Academy fixtures

Bydd y tîm Dan 18 yn cychwyn eu tymor yng Nghynghrair Ieuenctid Dyffryn Clwyd pnawn Sul.
Sul 17 Medi: Mynydd Tigers v CPD Porthmadog @ 2pm Cae Beach Road, Bangor.
Bydd timau eraill yr Academi yn chwarae ar Y Traeth bore Sul.
Sul Medi 17: CPD Porthmadog v Bala Dan12. Dan14 a Dan16.
Pob lwc i’r 4 tîm.

The U18s begin their season in the Vale of Clwyd Youth League on Sunday.
Sunday 17 September: Mynydd Tigers v CPD Porthmadog @ 2pm. Beach Road, Bangor.
The other Academy teams will be in action on Sunday morning.
Sunday 17th September: CPD Porthmadog vs Bala Town U12, U14, U16.
Good luck to all four age group teams.
14/09/17
Rhagolwg: Dinbych / Preview: Denbigh Town

Noddwyr / Match Sponsor: Grey Slate and Stone

Dinbych / Denbigh Dinbych bydd yn weld â’r Traeth pnawn Sadwrn. Y Sadwrn diwethaf cawsant fuddugoliaeth swmpus o 5-1 dros Cyffordd Llandudno, y clwb ar waelod y tabl. Roedd yna 5 enw gwahanol ar rhestr y sgorwyr gan gynnwys cyn chwaraewr Port; Josh Davies. Cymysg fu record Dinbych hyd yma, yn ennill 2 a cholli 3 gan golli o saith gôl yn erbyn Caernarfon a pump adre yn erbyn Treffynnon.
Yn dilyn y perfformiad a'r fuddugoliaeth gampus yn erbyn Caersws y Sadwrn diwethaf bydd Port yn awyddus i gadw’r pwysau ar Airbus, y tîm ar y brig a nhw fydd y clwb yn ymweld â’r Traeth ar 23 Medi .Yn eu dwy gêm oddi cartref mae Port wedi sgorio 12 gôl a gobethio caiff y cefnogwyr cartref eu gweld yn cynnal y math yma o record sgorio. Wedi’i hatric y Sadwrn ddiwethaf mae Joe Chaplin bellach ar ben rhestr sgorwyr yr HGA, gan gadarnhau fod Craig Papirnyk wedi arwyddo dipyn o dalent. Yn wir mae cyfanswm goliau y clwb yn ein gwneud yn brif sgorwyr yr HGA; un mwy na Chaernarfon. Hefyd, yn ei gêm gyntaf, cafwyd perfformiad awdurdodol yn y cefn gan Tom Taylor.
Ond peth peryg iawn fyddai diystyrru ein gwrthwynebwyr gan fod disgwyl i dîm sydd yn cynnwys chwaraewyr o safon Kristian Pierce, Josh Davies a Warren Duckett i ddringo’r tabl yn weddol gyflym. Edrychwn ymlaen at gêm gystadleuol arall. C’mon Port!

Denbigh Town will be the visitors to the Traeth on Saturday. They come on the back of a 5-1 home victory over bottom club Llandudno Junction. There were five different scorers including former Port striker Josh Davies. Their record so far this season has been mixed, winning 2 and losing 3 of their league games and shipping five goals against Holywell and seven to Caernarfon.
Following on from their win and excellent performance at Caersws last weekend, Port must look to keep up the pressure on league leaders Airbus who will be at the Traeth on Saturday 23 September. On the road Port have scored 12 goals in their two games and they will look to maintain their goal touch in front of their home supporters. Joe Chaplin’s hat-trick at Caersws sees him move to the top of the HGA goalscorers list and confrms that Craig Papirnyk has made a great signing and this has gone a long way to solving the lack of goal power last season. The tally of 17 goals so far this season edges them one ahead of Caernarfon as the HGA’s leading scorers. At Caersws we saw a commanding debut at the back from Tom Taylor.
However you cannot underestimate Saturday’s opponents despite their mixed start, as we can expect a team containing players of the quality of Kristian Pierce, Josh Davies and Warren Duckett to move rapidly up the table. We can look forward to another competitive game. C’mon Port!
12/09/17
Chwilio am Noddwr i gêm Gwpan Cymru / Search for Welsh Cup tie Sponsor

Os oes unigolyn neu fusnes a diddordeb mewn noddi’r gêm, neu’r bêl, ar gyfer Rownd 1 Cwpan Cymru JD rhwng Port a Llewod Penyffordd, cysylltwch â Dylan ar rees48wesla@gmail.com
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Sadwrn, 7 Hydref.

The club would like to hear from a business or interested individual who wishes to sponsor the JD Welsh Cup Round 1 tie or the Match Ball in the game between Port and Penyffordd Lions to be played at the Traeth on Saturday, 7 October.
If you are interested please contact Dylan - rees48wesla@gmail.com
11/09/17
Diolch i Michael Stringer / Michael Stringer’s generous donation

Hoffai'r clwb ddiolch yn fawr iawn i Michael Stringer am ei rhodd hael o £500 -a hynny ddim am y tro cyntaf.
Wrth ddiolch meddai’r cadeirydd, Phil Jones, “Mae Mr Stringer am i’w rodd gael ei rannu rhwng yr Academi a’r Cynllun Pêl-droed yn y Gymuned. Mae’n dweud fod hyn mewn gwerthfawrogiad o’r gwaith gwych a chaled sy’n cael ei wneud gan y ddwy adran yma o’r clwb.”
“Clwych, Clwych” cytunodd Phil gan ddiolch unwaith eto ac addo bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hybu ieuenctid yr ardal.

The club wishes to say a big thank-you to Michael Stringer for his generous gift of £500 – and this not for the first time.
As he extended his thanks, club chairman, Phil Jones added, “It is Mr Stringer’s wish that the money should be shared between the Academy and the Football in the Community Project as he would like to thank these two sections of the club for their tremendous work.”
In agreeing with Mr Stringer’s sentiments Phil added “Thanks again and I promise that the money will be used to benefit the young people of the area.”
11/09/17
Cwpan Cymru / Welsh Cup

Cwpan Cymru Bydd Port yn chwarae Penyffordd ar Y Traeth yn Rownd 1 Cwpan Cymru. Mae Penyffordd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Orllewin Cymru. Daeth y clwb drwy y ddwy rownd gymhwyso drwy guro Cefn Albion o 3-2 a Rhosllannerchrhugog o 3-2 hefyd.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar Sadwrn 7 Hydref

Port will play Penyffordd at the Traeth in Round 1 of the JD Welsh Cup. Penyffordd play in the Norrth East Wales Premier Division. They reached the 1st Round beating Cefn Albion 3-2 and Rhosllannerchrhugog also by 3-2. The matches will be played on Saturday 7 October.
08/09/17
Newyddion Academi /Academy Latest

Bydd timau Dan12, Dan14 a Dan16 yr Academi yn chwarae ddydd Sul (10 Medi) ar Y Traeth yn erbyn Academi Caernarfon.
Hefyd daeth yr enwau allan ar gyfer Cwpan Ieuenctid Cymru Dan19. Bydd Port oddi cartref yn Prestatyn gyda’r gêm ar 1af Hydref, cic gyntaf 2pm.

The Academy U12, U14 and under 16’s will be in action on Sunday (10 September) playing Caernarfon Town Academy at the Traeth.
The draw has been made for the FAW Youth Cup U19s and Port will be away at Prestatyn. The game will be played on Sunday, 1st October, Kick off 2pm.
07/09/17
Rhagolwg / Preview: Caersws

Caersws Yn dilyn y gêm yng Nghwpan Nathaniel MG a wedyn y toriad ar gyfer y gemau rhyngwladol, bydd Port yn dychwelyd at y gynghrair gan ymweld a glannau’r Hafren yn Caersws. Mae’r clwb o’r canolbarth wedi chwarae ond tair gêm gynghrair, yn colli allan ar gêm ar yr ail wythnos ar ôl i’r Rhaeadr dynnu allan. Ei record hyd yma ydy ennill un, cyfartal un a cholli un. Cawsant gêm gyfartal yn erbyn y newydd ddyfodiaid FC Queen’s Park ar ddiwrnod cyntaf y tymor, colli’n drwm yn erbyn eu cymdogion o Gegidfa cyn ennill am y tro cyntaf yn Cyffordd Llandudno.
Bu Caersws yn arwyddo dros yr haf ac y wyneb newydd mwyaf adnabyddus ydy Luke Sherbon yn ymuno o Aberystwyth. Ar y llaw arall mae un arall o’r chwaraewyr newydd Ross Stephens eisoes wedi gadael i ymuno â Prestatyn.
Bu’r ddau glwb yn elynion cyfeillgar ers ddyddiau Uwch Gynghrair Cymru a’r tro yma bydd Port yn edrych i dalu’r pwyth ar ôl colli o 3-1 yno y tymor diwethaf. Wedi cyffro’r gêm gwpan yn erbyn Caergybi gallwn ddisgwyl gêm dynn pnawn Sadwrn wrth ddychwelyd at y gemau bara menyn. C’mon Port!

Following the Nathaniel MG Cup tie and then the international break, Port return to league action with a visit to the Recreation Ground at Caersws. The mid-Wales club have played three league games, missing out on the 2nd week of the season due to Rhayader’s withdrawal. Their record shows a win a draw and a defeat. They drew with newcomers FC Queen’s Park on the first day of the season, suffered a heavy defeat to neighbours Guilsfield before getting their first win at Llandudno Junction.
Caersws have recruited over the summer and one significant signing was that of Luke Sherbon an experienced forward from Aberystwyth. But another new face, Ross Stephens, has already left for Prestatyn.
The rivalry between the two clubs goes back to WPL days and Port will be looking to avenge a 3-1 defeat on their last visit. Following the excitement of the cup-tie with Holyhead we can expect a tighter game on Saturday as we return to the bread and butter fixtures. C’mon Port!
07/09/17
Clwb Cymunedol Hwyl Pêl-droed y Flwyddyn / Fun Football Community Club of the Year

Ymddiriedolaeth / Trust Dyma ddatganiad yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed wrth gyflwyno’r wobr i gynllun Pêl-droed yn y Gymuned CPD Porthmadog.
"Yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel swyddog cymunedol pêl-droed gyda CPD Porthmadog, mae Gethin yn gweithio gyda 15 o ysgolion trwy gydol y flwyddyn ac yn helpu plant bach i ddechrau chwarae pêl-droed, ac i garu'r gem. Yn ychwanegol i hyn, mae Gethin hefyd yn defnyddio ei sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ystod y sesiynau i helpu greu cyswllt rhwng addysg a phêl-droed ac i gadw diddordeb yn y gêm.
“Gweithiodd y clwb yn agos gyda Mike Parry, rheolwr partneriaeth yn yr FAW Trust, er mwyn sefydlu sesiynau 'Girls Turn Up & Play', sy'n rhywbeth nad yw'r ardal wedi gwelders blynyddoedd.
“Mae Porthmadog hefyd yn rhedeg clybiau yn ystod y gwyliau, lle'r oedd dros 140 o blant yn cymryd rhan yn ystod y Pasg, a 10 o ddyddiau gweithgareddau yn ystod yr haf. Yn ogystal a hyn mae yna ẅyl pel-droed mini, ym mhartneriaeth gyda chynghrair ieuenctid Llÿn ac Eifionydd, lle roedd cyfle i 18 o dimau i chwarae a mwynhau mewn amgylchedd ddiogel, a gweld tlws yr UEFA Champions League yn ystod y dydd.”

Here is the FAW Trust’s statement at the Community Awards presentation to Port’s Football in the Community project.
“Porthmadog FITC have achieved an awful lot as McDonald’s/FAW Fun Football Provider. They currently work with 15 schools across South Gwynedd, providing the children with their first experiences of football, helping them to fall in love with the game, whilst also linking football sessions with literacy and numeracy activities.
“The club has worked closely with FAW partnership manager, Mike Parry, to set up girls turn-up and play sessions, something that has not been seen in the local community for many years.
“They also lead holiday clubs, where over 140 children attended across the week during the Easter period and have hosted 10 events across the summer. Also a mini football festival in conjunction with the Llÿn and Eifionydd Junior League where 18 teams were able to play in a fun and safe environment with the UEFA Champions League Trophy in attendance.”
06/09/17
Sion ydy Chwaraewr y Mis / Sion named Player of the Month

Sion Bradley Llongfarchiadau i Sion Bradley a gafodd ei enwi yn Chwaraewr y Mis ‘Gwaith Brics Wrecsam’ yng Nghynghrair Huws Gray am fis Awst. Dyma’r ail dro i Sion gael ei enwebu am y wobr hon, gan iddo ennill y wobr hefyd am fis Chwefror 2017.

Congratulations to Sion Bradley who has been named the ‘Wrexham Brickwork’ Huws Gray Alliance, Player of the Month for August. This is the second time that Sion has been named for this award having previously name player of the month for February 2017.





06/09/17
Hawl rhyngwladol Tom Taylor / Tom Taylor’s International clearance

Hawl rhyngwladol Tom Taylor / Tom Taylor’s International clearance Mae hawl rhyngwladol Tom Taylor wedi dod drwodd bellach, wrth iddo symud o Shawbury United i CPD Porthmadog. Bydd felly yn cael chwarae pnawn Sadwrn yn erbyn Caersws.

Tom Taylor’s International clearance has now been granted to complete his move from Shawbury United and he will be eligible to play at Caersws on Saturday.
03/09/17
Anrhydedd i’r Cynllun Pêl-droed yn y Gymuned / Honour for Football in the Community Project

Roedd yn brofiad grêt i gefnogwyr CPD Porthmadog glywed enw Cynllun Pêl-droed yn y Gymuned y clwb yn cael ei enwi fel ‘Clwb Cymunedol Hwyl Pêl-droed y Flwyddyn’ yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cyhoeddywd hyn yn ystod hanner-amser y gêm rhyngwaldol rhwng Cymru ac Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.
Llongyfarchiadau i Gethin Jones a’i gyd-hyfforddwyr am ennill y wobr hon. Mae’n gydnabyddiaeth haeddiannol am yr holl waith caled sydd wedi mynd ymlaen wrth adeiladu’r cynllun hwn o’r gwaelod i fyny, mewn cyfnod mor fyr. Enillwyd yr anrhydedd hon yn wyneb cystadleuaeth wrth glybiau proffesiynol.
Yn ystod y cyfnod mae rhai cannoedd o blant Gwynedd wedi mwynhau bod yn rhan o gwrs Llythrennedd a Rhifedd, Cynllun Peldroed yn y Gymuned Clwb Pêl-droed Porthmadog. Cychwynwyd hyfforddiant pêl-droed i ferched hefyd, a bellach mae dros 30 o enethod yn troi fyny’n wythnosol. Hefyd cynhaliwyd ysgolion pêl-droed drwy gydol yr haf, mewn canolfannau fel Dolgellau a Tywyn yn ogystal ac ar y Traeth.
Mae’r Ymddiriedlaeth Bêl-droed wedi cynyrchu video byr i ddangos pam mae’r cynllun yn un mor llwyddianus. Gellir ei weld ar gyfri Trydar Port.

Highslide JS
Chris Coleman yn cyflwyno'r wobr / Chris Coleman presents the award


What a great moment for those CPD Porthmadog supporters present at the international at Cardiff City Stadium, hearing their club’s Football in the Community Project announced as FAW Trust 'Fun Football Community Club of the Year' during the interval in Saturday’s game.
Congratulations to Gethin Jones and his coaching team on receiving this award. It is a well deserved recognition for all the hard work which has seen this project built from the bottom up in a very short period of time. This award was earned in the face of competition from professional clubs.
Over the period, some hundreds of children in Gwynedd have beniftted from the Literacy and Numeracy courses run by the Porthmadog Football in the Community. Also coaching on a Turn up and Play basis for girls has been established with 30 or more girls turning up to play weekly. Throughout the summer football coaching schools have been held at centres like Tywyn and Dolgellau as well as at the Traeth.
A short video has been produced by the FAW Trust to show why the Football in the Community project is an award winner. You can access this on the Port twitter account.
Newyddion cyn 03/09/17
News before 03/09/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us